Cyhoeddwyd y bydd EUB Tywysog Cymru, sydd wedi bod yn cefnogi traddodiad y delyn Gymreig ers tro, yn rhoi telyn a wnaed gan wneuthurwyr Telynau Teifi i Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru. Rhoddir y delyn hon i un o'r telynorion ifanc talentog dan 19 yn yr Ŵyl, a gynhelir yn Galeri yng Nghaernarfon rhwng 20 a 26 Ebrill eleni.
Bydd y beirniaid yn cyflwyno’r delyn, a wnaed gan Delynau Teifi o Landysul, i’r telynor sy’n cyrraedd y brig yn y categori dan 13 oed neu dan 19 oed. Yn ogystal, bydd yr enillydd yn derbyn ysgoloriaeth, sy’n cael ei dyfarnu i’r tri thelynor gorau ym mhob categori oedran.
Mae’n bosibl felly y bydd y delyn hon yn cael cartref newydd dros y mor, ond nid yw hynny’n rhywbeth newydd i fenter gymdeithasol fel Telynau Teifi, a sefydlwyd yn 2004. Ers sefydlu’r cwmni, mae eu telynau wedi bod yn cael sylw gan delynorion gwerin o bob cwr o’r byd, ac archebion wedi cyrraedd o wledydd mor bell â Seland Newydd, Dwbai, y Ffindir, Tsieina ac America.
Wrth sôn am y rhodd hael i’r Ŵyl, dywedodd cyfarwyddwr yr ŵyl, Elinor Bennett:
“Mae EUB Tywysog Cymru wedi dangos ei gefnogaeth ers tro tuag at draddodiad y Delyn Gymreig, ac mae’n parhau i gadw Telynor Swyddogol, o blith y gronfa o dalent ifanc sy’n codi o Gymru. Rydym yn falch ac yn ddiolchgar tu hwnt am y rhodd addas hon a fydd yn cael cartref gwerthfawr gan un o’n cystadleuwyr talentog.”
Wrth siarad am y rhodd, dywedodd Llefarydd ar ran Tywysog Cymru:
"Mae EUB yn hynod o falch o gael rhoi telyn yn wobr i Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru. Ers nifer o flynyddoedd, mae Tywysog Cymru wedi bod yn ceisio hyrwyddo gwerthfawrogiad o’r delyn a’i phwysigrwydd i ddiwylliant a thraddodiad Cymru ac, ar yr un pryd, wedi rhoi cefnogaeth a chydnabyddiaeth i delynorion ifanc o Gymru, er mwyn i’w brwdfrydedd barhau i’r dyfodol".Gellir canfod datganiad i'r wasg yma.
No comments:
Post a Comment