Rydym yn hynod o ddiolchgar am rodd hael EUB Tywysog Cymru o Delyn Teifi a fyddai’n cael ei roi fel gwobr yn ystod yr Ŵyl Delynau fyddai’n gael ei gynnal rhwng yr 20fed ar 26ain o Ebrill 2014.
Bu i Elinor Bennett a Hannah Stone, fynd i weld cynnydd Telynau Teifi yn adeiladu’r delyn arbennig yma. Dyma luniau o’r union delyn fyddai’n cael ei roi fel gwobr yn ystod yr ŵyl.
Yn ogystal, cafodd eu hymweliad ei ddogfennu gan raglen Heno ar S4/C, gan ddangos y delyn yn cael ei wneud, ynghyd â dangos Hannah Stone yn chwarae un o delynau Teifi.
Os nad ydych wedi cael cyfle eto i wylio’r cyfweliad, mae ar gael ar Clic am ychydig o wythnosau. (22:45 munud mewn i’r rhaglen.)
No comments:
Post a Comment