28/03/2014
Jeremy Huw Williams
Bydd Jeremy Huw Williams yn perfformio yng Nghyngerdd Dathliad William Mathias a'r Cyngerdd Rhyngwladol. Bydd hefyd yn cadeirio'r Gystadleuaeth Ieuenctid.
Yn faritôn o Gymru, fe astudiodd Jeremy Huw Williams yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, yn y Stiwdio Opera Genedlaethol yn Llundain, a chydag April Cantelo. Fe ddechreuodd ei yrfa gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn canu rhan Guglielmo (Così fan tutte), ac ers hynny mae wedi canu trigain o rannau operatic. Mae wedi perfformio mewn neuaddau yn Ne a Gogledd America, Awstralia, Hong Kong, ac yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop. Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Glyndwr yn 2009 am ei wasanaeth i gerddoriaeth, a Doethuriaeth mewn Cerddoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberdeen yn 2011.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment