Bydd Nick Capaldi yn cadeirio Cystadleuaeth y Pencerdd.
Mae Nick Capaldi yn Brif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru ers mis Medi 2008.
Cyn gael ei benodi i’r swydd hon yng Nghymru, roedd Nick Capaldi yn Gyfarwyddwr Gweithredol Cyngor Celfyddydau Cymru (De Orllewin Lloegr) a chyn hynny roedd yn Brif Weithredwr Celfyddydau De-orllewin Lloegr. Bu Nick yn aelod o fwrdd Diwylliant De-orllewin Lloegr, yn Gadeirydd Partneriaeth Datblygu Diwylliannol Bryste (menter arloesol gyhoeddus a phreifat) a Chadeirydd Celfyddydau 2000 (sefydliad a oedd yn hyrwyddo cyfleoedd i artistiaid unigol).
Mae’n raddedig o Ysgol Gerdd Chetham ym Manceinion, y Coleg Cerdd Brenhinol a Phrifysgol y Ddinas yn Llundain. Dechrau gyrfa Nick Capaldi oedd yn gerddor proffesiynol mewn perfformiadau cyngerdd a darlledu ar y radio a’r teledu.
Mae Nick Capaldi hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.
No comments:
Post a Comment