20/03/2014

Sêr Rhyngwladol Byd y Telynau ar eu Ffordd i Gymru

Disgwylir i nifer o delynorion gorau’r byd i gyrraedd Caernarfon ym mis Ebrill fel rhan o ddathliadau’r drydedd Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru.

O Ddydd Sul 20 Ebrill ymlaen, fe fydd Galeri yn ganolfan i’r ŵyl saith diwrnod gyda chyngherddau, cystadlaethau, darlithoedd a gwersi meistri.

Cynhelir cyngherddau yn nosweithiol gyda pherfformiadau gan delynorion o fri megis Catrin Finch, Hannah Stone, Telynores Swyddogol Tywysog Cymru, Elizaveta Kosina o Rwsia, Mieko Inoue o Japan, Zi Lan Liao o Tsiena,  Sixto Corbalan o Baraguay a Leonard Jacome o Feniswela.  
Catrin Finch
Hannah Stone
Elizaveta Kosina
Claudia Lamana

























Bydd y bariton Cymreig Jeremy Huw Williams yn perfformio gyda Cherddorfa Siambr Cymru yn y Cyngerdd Rhyngwladol (21 Ebrill) a bydd Georgia Ruth a Gwenan Gibbard yn cymryd rhan yn y Cyngerdd Cerddoriaeth Byd (25 Ebrill).
Fe fydd nifer o delynorion amryddawn yn cynnal gwersi meistri gan gynnwys Marisa Robles o Sbaen, Chantal Mathieu o Ffrainc, y meistr o’r Iseldiroedd Edward Witsenburg, Imogen Barford o Loegr a Carol McClure o’r UD.

Elinor Bennett
Dywedodd Elinor Bennett, Cyfarwyddwyr yr Ŵyl: 
"Dwi wir wedi fy ngwirioni gan y talentau anhygoel sydd yn rhan o Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru 2014.Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i groesawi bawb i Gaernarfon am wythnos sydd yn sicr i fod yn arbennig tu hwnt."



Mae cadarnhad o raglen yr Ŵyl yn dilyn y datganiad bod Tywysog Cymru, cefnogwr brwd o draddodiad y delyn yng Nghymru, wedi anrhegu telyn gan Delynau Teifi i’r Ŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru.

Mae trefnwyr yr ŵyl yn disgwyl y bydd cystadleuwyr yn dod o wledydd mor bell â Hong Kong, Rwsia, Gwlad Pwyl, yr Aifft, Gogledd America yn ogystal â thelynorion lleol o bob cwr o’r Ynysoedd Prydeinig, i gystadlu yn y pedwar gwahanol gategori: dan 13 oed, dan 19 oed, cystadleuaeth cerdd byd a chystadleuaeth y ‘Pencerdd’ neu brif gerddor yr Ŵyl. Yna bydd y beirniaid yn cyflwyno’r delyn, a wnaed gan Delynau Teifi o Landysul, i’r telynor sy’n cyrraedd y brig yn y categori dan 13 oed neu dan 19 oed. Yn ogystal, bydd yr enillydd yn derbyn ysgoloriaeth, sy’n cael ei dyfarnu i’r tri thelynor gorau ym mhob categori oedran. Ychwanegodd Bennett, 
"Eleni fe fydd Caernarfon yn croesawu cystadleuwyr a pherfformwyr o 26 wlad sy’n profi llwyddiant yr Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru i esgor fel un o brif wyliau cerddoriaeth y delyn ledled y byd.”  

No comments:

Post a Comment