23/04/2014

Canlyniadau'r Gystadleuaeth Iau


Llongyfarchiadau mawr i Noelia Cotuna, Alexandra Arsenova, a Samantha Schrecker am ennill ysgoloriaethau y gystadleuaeth Iau (dan 13 oed).

Dywedodd Alexandra Arsenova ei bod wedi mwynhau ei hamser yn yr Ŵyl eleni, ac yn mwynhau cefn gwlad Cymru ynghyd â mynychu cyngherddau'r Ŵyl.

Wedi teithio o Nashville, Tennessee, dywed Samantha Schrecker y byddai'n defnyddio arian yr ysgoloriaeth i brynu tannau ar gyfer y delyn, ynghyd â chynilo'r gweddill. Eglurodd fod y delyn yn mynd o nerth i nerth yn Tennessee.

Wedi cystadlu yn Serbia a'r Eidal eisoes, bwriad Noelia Cotuna fydd i wario ei hysgoloriaeth ar ddosbarthiadau meistr. Dywedodd ei fod wrth ei bodd o gael cystadlu yn yr Ŵyl.

No comments:

Post a Comment