Creodd Gŵyl Delynau Ryngwladol ddiwethaf Cymru (2010) argraff
arbennig ar dîm Camac o ran lefel eithriadol y cyfraniad cymunedol. Mae’n
bosib gwrthod y delyn gan ddweud mai “offeryn i’r lleiafrif” yw hi, ond yng
Nghaernarfon, mae’r delyn wrth galon y neges bod cerddoriaeth i bawb.
Mae cyfuniad Caernarfon o brosiectau estyn allan a chystadlaethau a
chyngherddau ar lefel ryngwladol yn dangos hefyd nad oes rhaid dewis
rhwng hygyrchedd a safonau uchel, ond bod y ddau yn perthyn gyda’i
gilydd mewn gwirionedd.
Ar ôl cael ein hysbrydoli gan yr ysbryd cynhwysol, agored a chadarn yma,
dyma gynnig noddi prosiect addysg ar gyfer gŵyl 2014. Ar y cyd â
Chanolfan Gerdd William Mathias, aethom ati a threfnu chwe gweithdy
ledled Cymru: tri yn y Gogledd, dau yn y De, ac un yng Nghwm Rhondda.
Gwahoddwyd athrawon o’r ardaloedd i gynllunio diwrnod o weithdai, gan
weithio gydag Elinor Bennett, i delynorion ar bob lefel. Diolch yn fawr i
Elfair Grug Dyer, Glian Llwyd, Gwenllian Llŷr, Mirain Martin, Dylan
Rowlands ac Amanda Whiting am eu cyfraniad brwd!
Yn ein profiad ni, nid pob telynor ifanc sy’n sylweddoli y gallai
cystadleuaeth ryngwladol fod o fewn cyrraedd: dydy hynny ddim yn rhan
o’u profiad nhw. Ac eto i gyd, mae’n bosib perfformio hyd yn oed eich
darnau cyntaf ar safon ragorol, ac roedden ni am i aelodau’r cwrs
sylweddoli bod y lefel uchel yma, a’r wefr sy’n rhan ohoni, yn rhywbeth y
gallan nhw anelu ati.
Peth gwych oedd gweld cynifer o delynorion yn y gweithdai, gyda chyfanswm o fwy na chant ac ugain yn cymryd rhan! Roedd cynnwys y gweithdai’n amrywio o jazz yng Nghaerdydd i storïau a gemau cerddorol gwych i’r rhai lleiaf ym Mhortmeirion. Roedd pob gweithdy hefyd yn cynnwys gwaith mewn ensemble telynau gydag Elinor - a mawr yw ein diolch yn hyn o beth i Creighton’s Collection am ddarparu’r dalenni cerddoriaeth, oedd o gymorth eithriadol. Edrychwn ymlaen at weld faint o aelodau’r gweithdai fydd yn dod i Galeri ar ddiwrnod olaf yr ŵyl, i chwarae eu darnau ensemble ar y balconïau - “oriel sain yn Galeri”.
Dyw Cymru ddim wedi dod drwy’r toriadau diweddar ar gyllid i
gerddoriaeth yn ddianaf. I raddau, mae’n anochel mai cerddoriaeth sy’n
dioddef pan fydd cyngor lle mae’r arian yn brin yn dewis rhwng gwersi
cerdd yn yr ysgol neu - er enghraifft - bwyd yn yr ysgol. A ninnau’n
noddwyr ein hunain, rydyn ni hefyd yn gorfod gwneud penderfyniadau
weithiau sy’n annymunol, ond sy’n cydnabod realiti’r farchnad. Does dim
ateb hawdd, ac mae’r atebion da fel arfer i’w gweld rywle rhwng y
farchnad gwbl rydd sy’n cael ei defnyddio ym model America o ariannu’r
celfyddydau, a’r system yn yr Almaen, sy’n cael ei hariannu bron yn llwyr gan y wladwriaeth. Yr hyn sy’n sicr yw bod cerddoriaeth a diwylliant yn
fwy na rhyw ddewis ychwanegol i’r gymuned. Mae llawer o ysgolion
cynradd wedi buddsoddi’n ddiweddar mewn iPads i fagu sgiliau
llythrennedd. Efallai fod hynny’n hwyl, ond does dim rhaid defnyddio iPad i
ddysgu darllen. Er hynny, mae angen i’r mwyafrif o bobl gael eu dysgu sut
i ddarllen, ac mae arnon ni angen gwersi cerddoriaeth hefyd i gadw
cerddoriaeth yn fyw. Does dim rhaid ichi fod wedi hyfforddi fel cerddor i
fwynhau cerddoriaeth, ond mae arnoch chi angen cerddorion sydd wedi’u
hyfforddi i’w chwarae ichi. Gan ddibynnu ble rydych chi’n byw, mae’n
bosibl hefyd y bydd arnoch chi angen athro neu athrawes cerddoriaeth i’ch
helpu i weld bod cerddoriaeth i chi, beth bynnag yr ydych chi’n ei wneud
neu y byddwch yn ei wneud fel oedolyn. Torrwch wersi cerddoriaeth, ac
mae’n fwy na mater o ddefnyddio dull dysgu gwahanol er mwyn cyrraedd
yr un nod, fel pe bai’r ysgol heb brynu iPads. Torrwch wersi cerddoriaeth,
ac rydych chi’n dileu agwedd ar brofiad diwylliannol y plant, ac ar eu
datblygiad personol a chymdeithasol.
Mae athrawon cerddoriaeth, a grwpiau ohonyn nhw mewn sefydliadau fel
Canolfan Gerdd William Mathias, yn gwneud cyfraniad o bwys at
gymunedau ar bob lefel: ifanc, hŷn, proffesiynol, amatur, heddiw ac yfory,
a hefyd – o leiaf fel hyn y dylai hi fod – waeth beth fo’ch cyfoeth. Yn ein
prosiect addysg ni, mae wedi bod yn fraint dathlu gwaith yr athrawon, eu
helpu i gynnig rhywbeth arbennig i’w disgyblion, a, gobeithio, annog
myfyrwyr newydd i afael yn y delyn!
Helen Leitner
Camac Harps, Ffrainc
ac
Elen Vining
Telynau Vining Harps, Caerdydd
No comments:
Post a Comment