Bydd Mieko Inoue:
- Ar banel y beirniaid ar gyfer Cystadleuaeth y Pencerdd,
- Perfformio yng Nghyngerdd Telynau'r Dwyrain - Dydd Iau 24 Ebrill, 7.30yp.
- Cynnal Dosbarth Meistr ar Ddydd Sadwrn 26 Ebrill am 10.00yb.
Mieko Inoue yw un o brif delynorion ac athrawon telyn Siapan, a dechreuodd astudio’r delyn pan oedd yn un-ar-ddeg oed gyda’r Athro Josef Molnar yn Tokyo.
Astudiodd gerddoriaeth a graddiodd yn y delyn yn Ysgol Gerdd Toho, un o’r ysgolion uchaf ei safon a mwyaf breintiedig Siapan, a chwblhaodd ei chwrs ol-radd yno hefyd.
Derbyniodd Wobr Arbennig yng Nghystadleuaeth Maria Korchinska yn 1983, a’r wobr am y perfformiad gorau yng Ngwyl Fukui yn 1992 ac amryw o wobrau cenedlaethol eraill.
Tra’n dal yn yr ysgol, cychwynnodd berfformio fel telynores broffesiynol mewn cerddorfeydd gan ennill canmoliaeth gan arweinwyr a cherddorfeydd. Bu'n gweithio llawer ym maes cerddoriaeth cyfoes, yn enwedig fel aelod o “Art Respirant” - grŵp a ffurfwyd gan berfformwyr a chyfansoddwyr.
Yn 1993 a 1999, dewiswyd Ms Inoue i fod yn ymchwilydd diwylliannol ar raglen gyfnewid o Siapan ac astudiodd gyda Susann McDonald ym Mhrifysgol Indiana, UDA.
Bu’n ymddangos ar lwyfannau cyngerdd fel unawdydd ac mewn grwpiau siambr yn Siapan a thramor. Bu’n unawdydd gwadd gyda rhai o brif gerddorfeydd Siapan, gan berfformio yng Nghyngres Delynau’r byd yn Copenhagen, Seattle, Prague, Dulyn a Vancouver. Ar hyn o bryd, hi yw Prif Delynores Cerddorfa Symffoni Yomiuri, a Cherddorfa Saito Kinen o dan yr arweinydd enwog, Seiji Ozawa.
Mae Ms Inoue yn chwarae rhan flaengar wrth gyd-gysylltu telynorion o Siapan â byd y delyn yn rhyngwladol. Mae’n dysgu’r delyn gydag arddeliad i lawer o delynorion ifanc yn Ysgol Gerdd Toho ac yn Ysgol Gerdd Ueno Gakuen.
No comments:
Post a Comment