30/03/2014

Arpe Dolce



Bydd Arpe Dolce yn cynnal 
  • gweithdy ar fyrfyfyrio ar Ddydd Llun 21 Ebrill am 4.00yh,
  • Cerddoriaeth Hwyr yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon am 9.30yh.
Bydd Arpe Dolce yn cynnal gweithdy ar fyrfyfyrio ar Ddydd Llun 21 Ebrill am 4.00yh, ynghyd â darparu Cerddoriaeth Hwyr yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon am 9.30yh.

Cyfuniad o dalentau dau o delynorion mwyaf  adnabyddus  a blaengar Cymru yw Arpe Dolce. Fel telynorion unawdol mae Angharad Wyn Jones a Dylan Cernyw wedi profi eu hunain ar draws y byd gyda’u perfformiadau a datganiadau unigryw i’r delyn. Fel artistiaid unigol, bu  Angharad yn chwarter o’r pedwarawd telyn "Four Girls Four Harps",  a Dylan yw hanner arall y ddeuawd piano a thelyn "Piantel".

Ffurfiwyd  Arpe Dolce gan fod y ddau'n adnabod ei gilydd trwy gerddoriaeth am lawer o flynyddoedd  gyda’r delyn yn ffactor gyffredin rhyngddynt. Mae’r grŵp yn chwarae mewn arddulliau clasurol, traddodiadol, trydanol gyfoes gydag ychydig o jazz wedi ei daflu i mewn! Ni ellir cyfyngu'r  delyn i gerddoriaeth glasurol -  fel profa’r deuawd yma wrth iddynt eich adlonni!


Mae Angharad a Dylan  wedi cyfeilio i rai o gantorion ac unawdwyr gorau ag adnabyddus Cymru, ac wedi rhannu llwyfan gyda sêr megis Bryn Terfel, Rhys Meirion, John Owen Jones, Katherine Jenkins, Hayley Westenra, Rhydian Roberts, Darius Danesh a Syr Elton John. Rhyngddynt maent wedi ymddangos ar lwyfannau’r Albert Hall, y Roy Thomson Hall (Canada), The World Choir Olympics Saoxing (China), BBC Proms ac fel telynorion gwadd ar gyfer cynulleidfa gyda Gerry Halliwell, y Beckhams, David Walliams, Richard & Judy, EUB Tywysog Cymru, a Duges Caerloyw. 

No comments:

Post a Comment