Bydd Carol McClure yn:
- Aelod o banel y beirniaid ar gyfer y Gystadleuaeth Iau,
- Cynnal gweithdy ar Ddydd Mawrth 22 Ebrill, 10.00yb.
Carol McClure (UDA) yw'r Athro Telyn ym Mhrifysgol Louisville (Kentucky) a Phrifysgol Union (Tennessee). Yn ogystal ag ymddangos yn gyson mewn cyngherddau a recordiau, mae hefyd yn gyfansoddwraig, arweinydd, a chynrychiolydd i'r ABRSM yn yr Unol Daleithiau. Hi yw Cyfarwyddwraig y National Summer Harp Academy a'r Harp School Inc., ac mae'n olygydd cerddoriaeth plant i Wasg Cerdd St. James. Chwech oed oedd Carol pan gychwynnodd ar wersi telyn ac ymhlith ei hathrawon 'roedd Mildred Dilling a Marcel Grandjany. Dechreuodd ei gyrfa fel unawdydd yn Ewrop pan oedd yn 16 oed. Fel arbenigwraig ar hyfforddi athrawon a gloywi ymgeiswyr ar gyfer cystadleuthau, ysgrifennodd Carol gwricwlwm newydd ddyfeisgar ar sut i ddysgu telyn i blant - The Angel's Harp (macramsayhouse) - a'r cwricwlwm gyfansawdd i gerddoriaeth plant, Viva Voce (SJMP). www.carolmcclure.com/
No comments:
Post a Comment