Bydd Gwenan Gibbard yn:
- Cynnal ‘Chwedl a Chainc’ yng Nghastell Caernarfon gyda’r storïwr Eric Maddern ar Ddydd Llun 21 Ebrill am 2.30yh,
- Perfformio yng Nghyngerdd Cerddoriaeth Byd ar Ddydd Gwener 25 Ebrill.
Mae Gwenan yn un o artistiaid gwerin amlycaf Cymru. Bu’n cynrychioli Cymru mewn gwyliau yng Nghymru a thramor, gan berfformio ei threfniannau ffres a chyfoes o’n caneuon a’n halawon traddodiadol.
Mae’n un o’r ychydig berfformwyr sy’n arbenigo yn yr hen grefft o ganu cerdd dant hunan-gyfeiliant, ac yn ddiweddar rhyddhaodd ei thrydydd albwm ar label Sain - Cerdd Dannau - casgliad blaengar sy’n darganfod hen drysorau ac yn torri tir newydd ym maes cerdd dant. Roedd Gwenan yn un o brif artistiaid cyngerdd agoriadol Womex yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Bu hefyd yn perfformio yn Efrog Newydd fel rhan o ddathliadau geni Dylan Thomas ac yn teithio Cymru fel rhan o’r prosiect arbennig CylchCanu.
No comments:
Post a Comment