25/03/2014

Helen Davies Mikkelborg


Bydd Helen Davies Mikkelborg yn beirniadu'r Gystadleuaeth Ieuienctid, a'r Gystadleuaeth Cerddoriaeth Byd.

Bellach wedi ei sefydlu yn Copenhagen, Denmarc, mae Helen, sy’n wreiddiol o Aberystwyth wedi dod yn un o brif gerddorion Denmark. Mae wedi bod yn gysylltiedig â’r byd-enwog Royal Copenhagen Chapel Choir, ac wrth gwrs ei gŵr, y cyfansoddwr a thrympedwr Palle Mikkelborg, sy’n un o gerddorion jazz mwyaf enwog y byd.

Mae Helen yn gymwys iawn i fod yn un o feirniaid ar gyfer y Gystadleuaeth Cerddoriaeth Byd, gan ei bod wedi gweithio a recordio gyda cerddorion traddodiadol blaengar o amryw genres, ac mae hi yn llythrennol wedi perfformio ar draws y byd, o ben cylch yr Arctig yn yr Ynys Las, i bwynt mwyaf deheuol Tasmania. Mae cyfandiroedd eraill lle mae hi wedi chwarae yn cynnwys De Affrica, Awstralia, Gogledd a De America a'r Dwyrain Pell ynghyd â drwy gydol Ewrop a Sgandinafia.

Mae Helen wedi derbyn gwahoddiad gyffroes Awst nesaf i Transylvania, lle y bydd hi a Palle yn perfformio yng Nghastell gothig arswyd Bran, cartref chwedlonol i neb lleiaf na Count Dracula ei hun.

No comments:

Post a Comment