Bydd Imogen Barford yn rhan o banel y beirniaid ar gyfer y Gystadleuaeth Ieuenctid. Bydd hi hefyd yn cynnal dosbarth meistr ar ddydd Mercher 23 Ebrill am 10.00yb.
Imogen Barford yw Pennaeth y Delyn yn Ysgol Gerdd a Drama y Guidhall, yn Llundain. Galluogodd ei gyrfa hunan-gyflogedig hi i ymdrin ag ystod eang iawn o weithgareddau: perfformiadau unawdol a choncerti; cannoedd o gyngherddau cerddoriaeth siambr gyda'i grŵp ‘JEUX’. Bu'n ymddangos yn aml ar lwyfannau Llundain gan gynnwys y South Bank, Wigmore Hall, a'r King’s Palace - fel cerddor siambr, ynghyd â theithiau cerddoriaeth siambr led led Ewrop, yr UDA a Chanada.
Mae profiad cerddorfaol Imogen yn cynnwys gweithio gyda holl gerddorfeydd symffoni a siambr Llundain, mewn opera, ballet, ffilm, radio, darllediadau teledu, recordiadau a theithiau tramor. Arweiniodd ei hymrwymiad i gerddoriaeth gyfoes at nifer o berfformiadau cyntaf, a llawer gwobr comisiynu, gan gynnwys gwobr PRS yn ddiweddar.
Yn 2013 cychwynnodd Imogen gomisiynu cyfres o weithiau unawdol i’r delyn gan gyfansoddwyr blaengar o Brydain, gan ddechrau gyda Simon Holt a Robert Saxton. Ym maes cerddoriaeth cynnar, bu'n ymdrin a'r delyn ddwbl o gyfnod y Baróc, yn ogystal a thelyn yr Oesoedd Canol a'r Dadeni. Rhoddodd Imogen nifer o ddosbarthiadau meistr yn rhyngwladol, ac mae llawer o alw arni am ei gwaith fel arholwr ar gyfer y prif golegau cerddoriaeth, ac fel beirniad mewn cystadlaethau a gwyliau.
No comments:
Post a Comment