09/04/2014

Cerdd Hwyr: Y Traddodiad Byw

9.30pm   Nos Fercher, Ebrill 23  
Tafarn y Black Boy
Caernarfon

Alawon telyn a chaneuon gwerin Cymru yng nghwmni Mair Tomos Ifans, Sioned Webb ac Arfon Gwilym.


Tri sydd wedi eu gwreiddio yn nhraddodiad gwerin a cherdd dant Meirionnydd. Maen nhw wedi perfformio ar hyd a lled Cymru a thramor, ac yn ymddiddori hefyd yn y canu plygain. Mae Mair yn enillydd Gwobr Lady Herbert Lewis (y gân werin) yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn chwedleuwraig, telynores ac actores. Mae Sioned yn enillydd Gwobr John Weston Thomas (telyn deires) yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn diwtor cerdd, cyfansoddwraig ac awdur. Mae Arfon yn ganwr gwerin a cherdd dant ac yn awdur erthyglau a llyfrau ar draddodiad gwerin Cymru. 

No comments:

Post a Comment