Bydd CLOUDS yn:
- Perffromio yng Nghyngerdd yr Ŵyl ar Ddydd Mawrth 22 Ebrill, 7.30yh
- Cerddoriaeth Hwyr ar Ddydd Mawrth 22 Ebrill 9.30yh
Ffurfiwyd pedwarawd telyn CLOUDS ym 2008 yn y cyfnod pan oedd Elfair Grug Dyer, Rebecca Mills, Esther Swift ac Angelina Warburton yn fyfyrwyr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion, RNCM, o dan hyfforddiant Eira Lynn Jones. Mae’r pedwarawd telyn CLOUDS wedi datblygu o nerth i nerth ac erbyn hyn wedi cyhoeddi dwy gryno ddisg – Clouds a Water. Esther Swift sy’n cyfansoddi ar gyfer CLOUDS a hynny mewn dull diddorol ac unigryw sy’n seiliedig ar ei chefndir gwerinol a’i dawn i fyrfyfyrio. Mae CLOUDS wedi teithio ar hyd a lled Prydain yn hyrwyddo eu cryno ddisgiau ac mae’r perfformiadau hynny yn cynnwys cyngherddau yn St. Giles, ac Oriel Whitechapel, Llundain. Yn dilyn llwyddiant eu taith gyntaf ym 2011, derbyniodd CLOUDS wahoddiad i berfformio eu cerddoriaeth unigryw yn y Bridgewater Hall, Manceinion. Ymddangosai tri aelod o CLOUDS yn yr Wyl Delynau gan bod Rebecca yn perfformio ar Long Y Frenhines Elisabeth, rhan o’i gwaith fel telynores y llongau Cunard.
No comments:
Post a Comment