Bydd Gillian Green:
- Ar banel y beirniaid ar gyfer y Gystadleuaeth Iau,
- Yn cynnal gweithdy telyn i oedolion gyda Helen Davies-Mikkelborg ar Ddydd Mercher 23 Ebrill, 10.00am.
Daw Gillian o Griccieth a
hi oedd un o’r myfyrwyr cerdd cynta i fynychu Ysgol Gerdd Chetham
ym Manceinion. Derbyniodd ei haddysg bellach ym Mhrifysol Caerdydd
gan astudio’r delyn gyda Elinor Bennett, Ann Griffiths ac Aileen
MacArdle. Buodd yn diwtor telyn ym Morgannwg Ganol am nifer o
flynyddoedd cyn derbyn nawdd oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru i
ddilyn cwrs mewn Gweinyddu’r Celfyddydau ym Mhrifysgol City,
Llundain. Penodwyd hi yn Gyfarwyddydd cynllun Yehudi Menuhin Live
Music Now ym 1990 ac yn Gyfarwyddydd
Clyweliadau LMN yn y D.U. Roedd Gillian yn Is-Gadeirydd Arpa Viva
Cymru yn 2007 ac mae hi yn Ymddiriedolwr a Beirniad o’r Kenneth
Loveland Gift.
No comments:
Post a Comment