27/03/2014

Mared Emlyn


Bydd Mared Emlyn yn perfformio yng Nghyngerdd yr Ŵyl ar Ddydd Mawrth 22 Ebrill, ac yn arwain gweithdy cyfansoddi gyda Pwyll ap Siôn ar ddydd Sadwrn 26 Ebrill.

Daw Mared yn wreiddiol o Langernyw, ond ers sawl blwyddyn bellach mae’n byw yn Eglwys Bach, Dyffryn Conwy. Graddiodd yn 2009 gyda BMus Anrhydedd Dosbarth Cyntaf ym Mhrifysgol Bangor ac enillodd ysgoloriaeth KESS wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd mewn cydweithrediad â Chwmni Cyhoeddi Gwynn, i barhau gyda’i hastudiaethau. Mae hi newydd gwblhau ei chwrs doethuriaeth mewn perfformio ar y delyn a chyfansoddi yn llwyddiannus. Bu’n astudio cyfansoddi gyda Dr Pwyll ap Siôn a’r delyn gydag Elinor Bennett, yn ogystal â chael gwersi gan Ursula Holliger yn Basel, a Judy Loman yn Toronto.

Mae Mared yn perfformio mewn cyngherddau fel unawdydd, ac hefyd wedi perfformio Danses Sacrée et Profane gan Debussy, a Consierto ar gyfer y Delyn gan Ginastera fel unawdydd gyda Cherddorfa Symffoni Prifysgol Bangor.


Enillodd fedal y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011 am ei gwaith Perlau yn y Glaw ar gyfer y delyn. Yn ogystal â’r comisiwn ar gyfer yr ŵyl delynau, cafodd hefyd ei chomisiynu i gyfansoddi gwaith ar gyfer ffidil a phiano ar gyfer perfformiad gan Madeleine Mitchell yng Ngŵyl Gerdd Newydd Bangor eleni.

No comments:

Post a Comment